Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-25-13 – Papur 1

 

GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR

 

 

CLA321 Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013

Gweithdrefn: Cadarnhaol

 

Mae Rhan 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ("y Mesur") yn rhoi’r hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol i aelodau o awdurdodau lleol.

 

Mae'r Mesur yn creu hawl i bum math o absenoldeb teuluol: absenoldeb mamolaeth; absenoldeb newydd-anedig; absenoldeb mabwysiadydd; absenoldeb mabwysiadu newydd ac absenoldeb rhiant. Mae'r hawl a grëir gan y Mesur yn ddarostyngedig i'r ffaith bod yr aelodau'n bodloni amodau a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amodau y mae'n rhaid i aelodau awdurdodau lleol eu bodloni er mwyn bod â'r hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth, ymysg pethau eraill, ynglŷn â rhychwant y gwahanol gyfnodau o absenoldeb; diddymu cyfnodau o absenoldeb a therfynu absenoldeb.

 

CLA322 - Rheoliadau Adeiladu (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (Rhif Offeryn Statudol 2010/2214).

 

Mae Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau Adeiladu 2010 o ran Cymru.  

 

Mae'r Atodlen 3 newydd (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau o'r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu adneuo planiau llawn) yn ychwanegu at y rhestr o gyrff a nodir yng ngholofn 2 fel cyrff sy'n gallu cofrestru personau at ddibenion hunanardystio mewn perthynas â mathau penodol o waith a nodwyd yng ngholofn 1.

 

Pan fydd gwaith yn cael ei wneud gan osodwr sydd wedi'i asesu i fod yn gymwys ar gyfer math o waith ac sydd wedi'i gofrestru fel aelod o'r cynllun, nid oes angen cynnwys corff rheoli adeiladu cyn dechrau'r gwaith na thalu ffi rheoli adeiladau. Mae hyn yn lleihau'r gost ar gyfer gosodwyr a pherchnogion adeiladau.

 

Mae'r gwelliannau hyn yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i Reoliadau 2010 i sicrhau eu bod yn cynrychioli'r sefyllfa bresennol yn gywir o ran cynlluniau awdurdodedig a'r math o waith y caiff gweithredwyr y cynllun a'r aelodau ei wneud.